Mathau o ddogfennau

Gallwch lanlwytho'ch dogfennau mewn llawer o wahanol fformatau, byddai'n well gennym pe byddech yn lanlwytho'ch dogfennau yn y fformatau isod lle bo modd:

  • .pdf
  • .jpg
  • .png
  • .txt
  • .doc/docx

Mae uchafswm maint ffeil ar gyfer yr holl ffeiliau a gyflwynir o 18 MB, yn dibynnu ar bwy rydych yn cwyno ar eu rhan, a hyn sy'n pennu faint o ddogfennau y gallwch eu lanlwytho.

Nifer y dogfennau a therfynau ar faint ffeiliau

Os ydych yn cwyno ar eich rhan eich hun, gallwch lanlwytho:

  • Uchafswm o 3 ffeil mewn perthynas â'ch cwyn i'ch darparwr gwasanaeth
  • Uchafswm o 3 ffeil mewn perthynas ag ymateb eich darparwr gwasanaeth.
  • Uchafswm cyfyngiad maint ffeiliau cyfun 18 MB

Os ydych yn cwyno ar ran rhywun arall, gallwch lanlwytho:

  • 1 ffeil yn ymwneud â'ch awdurdod i wneud cwyn ar ran rhywun arall; dylai hwn fod yn gopi wedi'i lofnodi o'n ffurflen awdurdod cynrychiadol.
  • Uchafswm o 3 ffeil mewn perthynas â'ch cwyn i'ch darparwr gwasanaeth
  • Uchafswm o 3 ffeil mewn perthynas ag ymateb eich darparwr gwasanaeth.
  • Uchafswm cyfyngiad maint ffeiliau cyfun 18 MB

Os ydych yn cwyno ar ran eich busnes bach/elusen/ymddiriedolaeth, gallwch lanlwytho:

  • Uchafswm o 3 ffeil yn ymwneud â phrawf o asedau, trosiant blynyddol, nifer y cyflogeion ac ati.
  • Uchafswm o 3 ffeil mewn perthynas â'ch cwyn i'ch darparwr gwasanaeth
  • Uchafswm o 3 ffeil mewn perthynas ag ymateb eich darparwr gwasanaeth.
  • Uchafswm cyfyngiad maint ffeiliau cyfun 18 MB

Enghreifftiau

Os oes gennych lythyr ymateb terfynol 5 tudalen gan eich darparwr gwasanaeth mewn un ddogfen PDF, caiff hwn ei ddosbarthu fel un ffeil. Mae'r math hwn o PDF a gynhyrchir yn electronig yn debygol o fod â maint ffeil fach.

Os oes gennych PDF tudalennau lluosog sy'n cynnwys dogfennaeth wedi'i sganio, caiff hwn ei ddosbarthu fel un ffeil. Mae'r math hwn o PDF yn debygol o fod â maint ffeil fawr ac rydym yn gweld bod y rhain yn fwy na'r terfyn ffeil 18 MB yn aml.

Os oes gennych ddau lun o'ch llythyr cwyno wedi'i dynnu gyda'ch ffôn neu gamera digidol, dyma ddwy ffeil. Mae'n debygol y bydd gan luniau feintiau ffeiliau mawr; gall llun o ansawdd uchel a dynnir gan ddefnyddio ffôn modern fod yn unrhyw le rhwng 1 MB a 4 MB.

Mae lanlwytho pump neu fwy o luniau o ansawdd uchel yn debygol o fod yn fwy na'r terfyn ffeil o 18 MB.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd o leihau maint lluniau cyn i chi eu lanlwytho gan wneuthurwr eich dyfais.

Sicrhewch fod unrhyw luniau neu sgrinluniau o ohebiaeth gwyno yn cael eu darparu'n llawn ac yn cynnwys y dyddiadau y cawsant eu hanfon neu eu derbyn, a'r cyfeiriad neu'r cyfeiriadau e-bost y cawsant eu hanfon iddynt ac oddi yno.

Peidiwch â phoeni bod cyfyngiad ar faint a nifer y ffeiliau y gallwch eu lanlwytho. Yn y rhan fwyaf o achosion dim ond 2-3 dogfen sydd eu hangen arnom:

  • y gŵyn ffurfiol i'r darparwr gwasanaeth;
  • ymateb terfynol y darparwr gwasanaeth i'r gŵyn;
  • ac os yw'n berthnasol, prawf eich bod yn gymwys i gwyno ar ran rhywun arall neu fusnes bach/elusen/ymddiriedolaeth

Unwaith y bydd ein tîm yn derbyn ac yn adolygu eich ffurflen gwyno, byddwn yn gofyn i chi roi rhagor o wybodaeth i ni os bydd ei hangen arnom.

Sut i lanlwytho'ch ffeiliau

Ar y camau perthnasol yn y ffurflen, bydd gofyn i chi lanlwytho'r dogfennau priodol. I wneud hyn cliciwch ar y botwm ‘Dewis Ffeil’, dewch o hyd i’r ffeil rydych chi am ei lanlwytho ac yna cliciwch ar y botwm ‘Lanlwytho’.

Sut i lanlwytho'ch ffeiliau

Wrth i ddogfennau gael eu lanlwytho bydd y ffurflen yn nodi faint o le a ddefnyddiwyd yn ôl y terfyn 18 MB a ganiateir.

Wrth i ddogfennau gael eu lanlwytho bydd y ffurflen yn nodi faint o le a ddefnyddiwyd yn ôl y terfyn 18 MB a ganiateir

Ffeiliau sy'n fwy na'r terfyn maint ffeil

Os yw ffeil unigol dros y terfyn maint 18 MB bydd y neges ‘Mae’r ffeil rydych wedi ceisio ei lanlwytho’n rhy fawr’ yn cael ei harddangos. Os bydd hyn yn digwydd cliciwch ar ‘Cadw a dod yn ôl’ a fydd yn anfon e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych yn gynharach yn y ffurflen. Bydd hyn yn cynnwys dolen y gallwch wedyn ei defnyddio i ddychwelyd i'r ffurflen unwaith y byddwch wedi lleihau maint y ddogfen rydych am ei lanlwytho neu wedi dod o hyd i fersiwn arall.

Ffeiliau sy'n fwy na'r terfyn maint ffeil

Os yw maint cyfunol y dogfennau sy’n cael eu lanlwytho dros y terfyn 18 MB, bydd y neges ‘Rydych wedi cyrraedd y terfyn maint ffeiliau llawn a ganiateir i’w lanlwytho’ yn cael ei dangos. Os bydd hyn yn digwydd, er mwyn dod â chi’n ôl o fewn y terfynau a ganiateir, dylech ddileu rhai neu bob un o’r dogfennau rydych wedi’u lanlwytho drwy glicio ar yr ‘x’ wrth ymyl y ddogfen(dogfennau) a pharhau i gyflwyno’ch cwyn.

Gallwch hefyd glicio ar ‘Cadw a dod yn ôl’ a fydd yn anfon e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych yn gynharach yn y ffurflen. Bydd hyn yn cynnwys dolen y gallwch ei defnyddio wedyn i ddychwelyd i’r ffurflen unwaith y byddwch wedi lleihau maint y dogfennau neu wedi dod o hyd i fersiwn arall.

Os yw maint cyfunol y dogfennau sy’n cael eu lanlwytho dros y terfyn 18 MB