Cam 1: dweud wrth eich darparwr gwasanaeth cyfreithiol Dylai eich darparwr gwasanaethau cyfreithiol roi gwasanaeth rhesymol i chi a'ch trin yn deg. Ond weithiau mae pethau'n mynd o chwith. Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a gawsoch, dywedwch wrth eich darparwr gwasanaethau cyfreithiol fel eu bod yn cael cyfle i unioni pethau. Dylai pob darparwr gwasanaeth cyfreithiol egluro sut mae ei weithdrefn ymdrin â chwynion ei hun yn gweithio. Mae'n rhaid i chi roi cyfle i'ch darparwr gwasanaeth cyfreithiol ddatrys eich cwyn cyn y gallwn ni fod yn gysylltiedig. Gwnewch eich cwyn i'r cyfreithiwr cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol bod problem – peidiwch â'i gadael yn rhy hir. Os ydych chi'n cael anhawster yn cysylltu â'ch darparwr gwasanaethau cyfreithiol ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud nesaf, cysylltwch â ni.
Cam 2: Rhowch amser i'ch darparwr gwasanaethau cyfreithiol ddatrys pethau Dylech ganiatáu hyd at wyth wythnos i'ch darparwr gwasanaethau cyfreithiol ddatrys eich cwyn. Os na fyddant yn delio â'r gŵyn er boddhad i chi yn ystod y cyfnod hwnnw, gallwch ein cynnwys ni.
Cam 3: Dod â'ch cwyn atom ni Dewch atom cyn gynted ag y gallwch ar ôl ceisio datrys pethau gyda'ch cyfreithiwr. Os nad ydych yn hapus â'u hymateb terfynol, mae gennych hyd at chwe mis o ddyddiad eu hymateb terfynol i ddod â'ch cwyn atom. Fel rheol gyffredinol mae'n rhaid i'r holl gwynion fod wedi digwydd yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Os ydych am drafod cŵyn a ddigwyddodd fwy na chwe blynedd yn ôl, neu os nad ydych wedi gallu cwyno i'r darparwr gwasanaeth oherwydd bod eich cwmni bellach wedi cau, cysylltwch â ni