Mathau o ddogfennau

Gallwch lanlwytho'ch dogfennau mewn gwahanol fformatau, ond byddai'n well gennym i chi ddefnyddio'r fformatau a restrir isod os yn bosibl:

  • .pdf
  • .jpg
  • .png
  • .txt
  • .doc/docx

Mae terfyn maint ffeil cyfunol o 18 MB ar gyfer yr holl ffeiliau a gyflwynir. Mae nifer y dogfennau y gallwch eu lanlwytho yn dibynnu ar ran pwy yr ydych yn gwneud y gŵyn.

Nifer y dogfennau a therfynau maint ffeiliau

Os ydych chi'n dod â'r gŵyn atom ar eich rhan eich hun, gallwch lanlwytho uchafswm o:

  • 1 ffeil mewn perthynas â maes gwasanaeth lle mae hyn yn ymwneud â phrofiant neu ddrafftio ewyllysiau a lle mae gennych gopi o'r ewyllys.
  • 3 ffeil mewn perthynas â'ch cwyn i'ch darparwr gwasanaeth.
  • 3 ffeil mewn perthynas ag ymateb eich darparwr gwasanaeth.
  • Terfyn maint ffeiliau cyfunol o 18 MB.

Os ydych chi'n dod â'r gŵyn atom ar ran rhywun arall, gallwch lanlwytho uchafswm o:

  • 1 ffeil sy'n ymwneud â'ch awdurdod i wneud cwyn ar ran rhywun arall - dylai hon fod yn gopi wedi'i chwblhau o'n ffurflen awdurdod cynrychiolyddol.
  • 1 ffeil mewn perthynas â maes gwasanaeth lle mae hyn yn ymwneud â phrofiant neu ddrafftio ewyllysiau a lle mae gennych gopi o'r ewyllys.
  • 3 ffeil mewn perthynas â'ch cwyn i'ch darparwr gwasanaeth.
  • 3 ffeil mewn perthynas ag ymateb eich darparwr gwasanaeth.
  • Terfyn maint ffeiliau cyfunol o 18 MB.

Os ydych chi'n dod â'r gŵyn atom ar ran eich busnes bach, elusen neu ymddiriedolaeth, gallwch lanlwytho uchafswm o:

  • 1 ffeil sy'n ymwneud â phrawf o asedau os ydych yn cwyno ar ran ymddiriedolaeth.
  • 1 ffeil mewn perthynas â maes gwasanaeth lle mae hyn yn ymwneud â phrofiant neu ddrafftio ewyllysiau a lle mae gennych gopi o'r ewyllys.
  • 3 ffeil mewn perthynas â'ch cwyn i'ch darparwr gwasanaeth.
  • 3 ffeil mewn perthynas ag ymateb eich darparwr gwasanaeth.
  • Terfyn maint ffeiliau cyfunol o 18 MB.

Enghreifftiau

Os oes gennych lythyr ymateb terfynol 5 tudalen gan eich darparwr gwasanaeth fel dogfen PDF sengl, mae hyn yn cyfrif fel un ffeil. Mae'r math hwn o PDF a gynhyrchir yn electronig yn debygol o fod yn fach o ran maint ffeil.

Os oes gennych PDF aml-dudalen sy'n cynnwys dogfennau wedi'u sganio, mae hyn yn cyfrif fel un ffeil. Mae'r math hwn o PDF yn debygol o fod yn fawr o ran maint ffeil, ac rydym yn aml yn gweld bod rhain yn mynd dros y terfyn ffeil 18 MB.

Os ydych chi'n tynnu dau lun o'ch llythyr cwyn gyda'ch ffôn neu gamera digidol, mae hynny'n cyfrif fel dwy ffeil ar wahân. Mae lluniau fel arfer yn fawr o ran maint ffeil - gall llun o ansawdd uchel a dynnwyd ar ffôn modern fod rhwng 1 MB a 4 MB.

Mae lanlwytho pump neu fwy o luniau o ansawdd uchel yn debygol o fod yn fwy na'r terfyn ffeiliau cyfunol o 18 MB.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd o leihau maint y lluniau cyn eu lanlwytho trwy wirio gyda gwneuthurwr eich dyfais.

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw luniau neu sgrinluniau o ohebiaeth cwynion yn gyflawn ac yn dangos y dyddiadau y cawson nhw eu hanfon neu eu derbyn, yn ogystal â'r cyfeiriadau neu'r cyfeiriadau e-bost yr anfonwyd atynt ac oddi wrthynt.

Peidiwch â phoeni am y cyfyngiadau ar faint ffeil neu nifer y ffeiliau y gallwch eu llwytho i fyny. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond y 2-3 dogfen canlynol sydd ei angen arnom:

  • y gŵyn ffurfiol i'r darparwr gwasanaeth;
  • ymateb terfynol y darparwyr gwasanaeth i'r gŵyn;
  • ac os yw'n berthnasol, prawf eich bod yn gymwys i gwyno ar ran rhywun arall neu ymddiriedolaeth.

Ar ôl i ni dderbyn ac adolygu eich ffurflen gwyno, byddwn yn gofyn i chi roi mwy o wybodaeth i ni os oes ei angen arnom.

Sut i lanlwytho'ch ffeiliau

Ar y pwyntiau perthnasol yn y ffurflen, bydd angen i chi lanlwytho'r dogfennau perthnasol. I wneud hyn, cliciwch y botwm 'Dewis Ffeil', dewiswch y ffeil rydych chi am ei lanlwytho, yna cliciwch y botwm ‘lanlwytho’ neu 'Upload'.

Sut i lanlwytho'ch ffeiliau

Wrth i bob dogfen gael ei lanlwytho, bydd y ffurflen yn nodi faint o le a ddefnyddir yn erbyn y terfyn o 18 MB.

Wrth i ddogfennau gael eu lanlwytho bydd y ffurflen yn nodi faint o le a ddefnyddiwyd yn ôl y terfyn 18 MB a ganiateir

Ffeiliau sy'n fwy na'r terfyn maint ffeil

Os yw ffeil unigol yn fwy na'r terfyn maint o 18 MB, bydd neges 'Mae'r ffeil rydych chi wedi ceisio ei lanlwytho yn rhy fawr' yn ymddangos. Os bydd hyn yn digwydd, cliciwch ar y botwm ‘Cadw a dychwelyd’ ('Save and come back'), a bydd hyn yn anfon e-bost yn awtomatig i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych yn gynharach yn y ffurflen. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys dolen sy'n eich galluogi i ddychwelyd i'r ffurflen ar ôl i chi leihau maint y ddogfen neu ddod o hyd i fersiwn wahanol i'w lanlwytho.

Ffeiliau sy'n fwy na'r terfyn maint ffeil

Os yw maint cyfunol y dogfennau a lanlwythwyd yn fwy na'r terfyn o 18 MB, bydd neges 'Rydych wedi cyrraedd cyfanswm y terfyn lanlwytho maint ffeil a ganiateir' yn cael ei arddangos. Os bydd hyn yn digwydd, er mwyn dod â chi yn ôl o fewn y terfynau a ganiateir, dylech gael gwared ar rai neu'r cyfan o'r dogfennau rydych chi wedi'u lanlwytho trwy glicio ar yr 'x' wrth ymyl y ddogfen(au) a pharhau â chyflwyno'ch cwyn.

Gallwch hefyd glicio ‘Cadw a dychwelyd’ a fydd yn anfon e-bost yn awtomatig i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych yn gynharach yn y ffurflen. Sylwch, pan fyddwch yn cwyno ar ran rhywun arall, bydd yr e-bost awtomatig yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost. Bydd yr e-bost yn cynnwys dolen sy'n eich galluogi i ddychwelyd i'r ffurflen ar ôl i chi leihau maint y dogfennau neu ddod o hyd i fersiwn wahanol i'w uwchlwytho.

Os yw maint cyfunol y dogfennau sy’n cael eu lanlwytho dros y terfyn 18 MB