Cam 1 – Adolygiad arweinydd tîm/arbenigwr profiad cwsmeriaid Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir datrys cwyn am ein gwasanaeth gyda chymorth arweinydd tîm. Bydd arweinydd tîm yn ystyried eich pryderon ac, os cânt eu cadarnhau, gallant drefnu i gamau gael eu cymryd i unioni'r sefyllfa'n gyflym. Lle mae cwyn yn fwy cymhleth neu os oes angen ymchwiliad manwl, bydd arbenigwr profiad cwsmeriaid yn cwblhau adolygiad o'ch cwyn gwasanaeth. Ar ôl i ni gadarnhau'r cwynion am wasanaeth i'w hymchwilio, ni fyddwn yn ychwanegu cwynion newydd yr ydym yn ystyried y byddech wedi bod yn ymwybodol ohonynt ar y dechrau. Bydd yr arweinydd tîm neu'r arbenigwr profiad cwsmeriaid yn cadarnhau canlyniad eu hadolygiad i chi, a byddwch yn cael gwahoddiad i dderbyn neu wrthod y canlyniad hwnnw o fewn mis. Os na chawn ymateb o fewn mis, bydd hyn yn cael ei ystyried yn tynnu'r gŵyn gwasanaeth yn ôl a byddwn yn cau eich ffeil gŵyn, heb gymryd unrhyw gamau pellach.
Cam 2 – Adolygiad rheolwr profiad cwsmeriaid Os nad yw’r arweinydd tîm neu'r arbenigwr profiad cwsmeriaid wedi gallu datrys eich cwyn, gallwch ofyn i un o'n rheolwyr profiad cwsmeriaid gynnal adolygiad. Byddant yn ystyried yr ymateb a roddwyd i chi yng ngham 1, ynghyd ag unrhyw sylwadau a ddarparwyd gennych ynghylch pam eich bod yn dal yn anfodlon a byddant yn darparu ein hymateb terfynol i'ch cwyn. Bydd gennych fis o ddyddiad eu hymateb i benderfynu a ydych am ei dderbyn neu ei wrthod, neu i uwchgyfeirio eich cwyn i gam nesaf y broses. Os na chawn ymateb o fewn mis, bydd hyn yn cael ei ystyried yn tynnu'r gŵyn gwasanaeth yn ôl a byddwn yn cau eich ffeil gŵyn, heb gymryd unrhyw gamau pellach.
Cam 3 – Adolygiad gan ddyfarnwr cwynion am wasanaeth Os ydych chi'n dal yn anfodlon ar ôl derbyn ymateb gan reolwr profiad cwsmeriaid, gallwch ofyn i'ch cwyn gael ei hadolygu gan y dyfarnwr cwynion am wasanaeth. Dyma gam olaf ein proses cwynion am wasanaeth ac nid oes hawl bellach i apelio.